A Window to Explore

 

Illustrator Shaun Doyle’s integrated artworks appear throughout the Grange University Hospital. Inspired by local landscapes, they help to embed the arts programme into the fabric of the building.

In the neonatal intensive care unit (NICU), special care baby unit (SCBU) and children’s ward, Shaun’s signage depicts the local wildlife after which the rooms are named. His artworks bring corridors to life by introducing colour, warmth and a gentle playfulness. Wall illustrations feature animals hiding in the grass and hot air balloons soaring in the sky. Butterflies and bees glide among flora and fauna in the emergency department’s paediatric resus room and, in the SCBU, there is a magnetic artwork on which every baby who is discharged can leave their mark - celebrating their journey home.

In squirrel ward for young people, Shaun has introduced brighter, almost fluorescent, colours to the  woodland theme, differentiating the space for its older patients.

In radiology, the imaging rooms used mainly for children benefit from large-scale liquid laminated wallpapers which provide a distraction from the clinical procedure.

To create his warm, welcoming and imaginative illustrations, Shaun took walks through Gwent Wildlife Trust nature reserves and Newport Wetlands, sketching the wildlife, habitats and flora and fauna he came across before digitally creating the artworks. Bringing the outdoors in, the playful images help the paediatric spaces (which can be highly medicalised) feel less frightening and provide scenes to distract, focus and calm.

Mae gweithiau celf integredig y darlunydd Shaun Doyle yn ymddangos ar hyd a lled Ysbyty Athrofaol y Faenor. Wedi'u hysbrydoli gan dirweddau lleol, maen nhw'n helpu i ymgorffori'r rhaglen gelf yng ngwead yr adeilad.

Yn yr uned gofal dwys i'r newydd-anedig, yr uned gofal arbennig babanod a'r ward plant, mae arwyddion Shaun yn darlunio elfennau o fywyd gwyllt lleol y mae'r ystafelloedd wedi cael eu henwi ar eu holau. Mae ei weithiau celf yn dod â'r coridorau'n fyw drwy gyflwyno lliw, cynhesrwydd a naws chwareus ysgafn. Mae'r darluniau ar y waliau'n cynnwys anifeiliaid yn cuddio yn y glaswellt a balŵns aer poeth fry uwchben. Mae gloÿnnod byw a gwenyn yn hedfan ymysg y fflora a'r ffawna yn ystafell dadebru pediatreg yr adran achosion brys ac, yn yr uned gofal arbennig babanod, mae gwaith celf magnetig y gall pob babi sy'n cael ei ryddhau adael ei farc arno - gan ddathlu'r daith gartref.

Yn ward y wiwer i bobl ifanc, mae Shaun wedi cyflwyno lliwiau mwy llachar, sydd bron yn fflwroleuol, i thema'r coetir, gan greu naws wahanol i'r cleifion hŷn.

Yn yr adran radioleg, mae'r ystafelloedd delweddu a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer plant yn elwa o bapurau wal wedi'u lamineiddio â hylif ar raddfa fawr sy'n tynnu sylw cleifion oddi wrth y weithdrefn glinigol.

Er mwyn creu ei ddarluniau cynnes a chroesawgar sy'n llawn dychymyg, aeth Shaun am dro drwy warchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Gwlyptiroedd Casnewydd, gan fraslunio’r bywyd gwyllt, y cynefinoedd, y fflora a'r ffawna a welodd cyn creu’r gweithiau celf yn ddigidol. Gan ddod â'r awyr agored dan do, mae'r delweddau chwareus yn helpu i wneud i'r ardaloedd pediatreg (y gall rhai ohonynt fod yn feddygol iawn) deimlo'n llai brawychus ac yn cynnig golygfeydd sy'n denu diddordeb, yn creu canolbwynt ac yn ymdawelu cleifion.

 

“Shaun’s artworks have made a major contribution to the arts programme at the Grange, and they have been so well received by staff, patients and visitors alike. Although Shaun’s work can be found in many paediatric focused areas of the hospital, their qualities mean they are enjoyed and appreciated by all ages.  They also help you find your way around the hospital: the large-scale illustrations act as visual landmarks and the signage on the wards makes them feel less clinical and austere.” - Jo Breckon, co-director of Studio Response

“The artworks that have been installed in our Neonatal Intensive Care Unit at the Grange really lift the environment for staff and make a huge difference for families visiting or staying with their baby. It’s so important on such a high-tech unit to have decor that provides colour and warmth. We’ve had really positive feedback from many visitors and our staff working at the Grange.” – Clare Payne, sister, Neonatal Intensive Care Unit 



"Mae gweithiau celf Shaun wedi gwneud cyfraniad mawr at raglen gelfyddydau'r Faenor, ac maent wedi cael croeso brwd gan staff, cleifion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Er bod gwaith Shaun i'w weld mewn llawer o ardaloedd pediatreg yn yr ysbyty, mae eu rhinweddau'n golygu eu bod yn cael eu mwynhau a'u gwerthfawrogi gan bobl o bob oed.  Maent hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch yr ysbyty: mae'r darluniau mawr yn dirnodau gweledol ac mae'r arwyddion ar y wardiau yn gwneud iddyn nhw deimlo'n llai clinigol a moel.” - Jo Breckon, cyd-gyfarwyddwr Studio Response


Mae'r gweithiau celf sydd wedi'u gosod yn ein Huned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn Ysbyty’r Faenor yn gweddnewid yr amgylchedd i’r staff ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd sy'n ymweld â'u babi neu'n aros gyda nhw. Mae mor bwysig addurno uned uwch-dechnoleg o’r fath gyda lliw a chynhesrwydd. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan lawer o ymwelwyr a'r staff sy'n gweithio yn Ysbyty’r Faenor- Clare Payne, prif weinyddes nyrsio, Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig

 

About the artist | Yr artist

Shaun Doyle is an illustrator based in Cardiff. He is originally from Brighton and studied Illustration at Kingston University. Shaun has worked on illustration projects for clients including The Guardian, American Express, Jamie Oliver and BBC, alongside leading local primary school workshops.

Darlunydd sy'n byw yng Nghaerdydd yw Shaun Doyle. Mae'n hanu o Brighton yn wreiddiol ac astudiodd gwrs Darlunio ym Mhrifysgol Kingston. Mae Shaun wedi gweithio ar brosiectau darlunio ar gyfer cleientiaid gan gynnwys The Guardian, American Express, Jamie Oliver a'r BBC, ochr yn ochr ag arwain gweithdai mewn ysgolion cynradd lleol.

Previous
Previous

ABUHB Photography | Ffotograffiaeth BIPAB

Next
Next

Andy O’Rourke, From Ladybirds to Outer Space