Art for the Grange
Celf ar gyfer y Faenor
The Grange University Hospital Arts Programme
Around the Grange University Hospital you will see many site-specific artworks that have been specially commissioned as part of the Grange Arts Programme. Research increasingly finds that creativity can improve health, and the Aneurin Bevan University Health Board is embracing this approach by placing art at the heart of the Grange and the healthcare it provides.
The artworks aim to enhance the wellbeing of patients, visitors, staff and the community by creating a calm and welcoming environment that encourages contemplation and offers reassurance. Together they also foster a unique identity for the hospital that expresses the vibrancy and diversity of the people and places it serves.
Exploring the beauty of the region's landscape and its distinct culture and heritage, the artworks celebrate and honour the work of the NHS and reflect on how art and science together drive innovation. The Grange University Hospital is a Centre of Excellence that delivers cutting-edge care.
The health board’s long-term vision to place creativity at the heart of the care it provides also includes a programme of innovative activities delivered in response to the Arts Council of Wales’ commitment to arts, health and wellbeing.
Learn more about The Grange University Hospital Arts Programme by watching our specially commissioned film produced by Huw Crowley.
Rhaglen Gelfyddydau Ysbyty Athrofaol y Faenor
O amgylch Ysbyty Athrofaol y Faenor fe welwch lawer o weithiau celf safle-benodol sydd wedi cael eu comisiynu'n arbennig fel rhan o Raglen Gelfyddydau'r Faenor. Mae ymchwil yn canfod fwyfwy y gall creadigrwydd wella iechyd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn croesawu hyn drwy roi celf wrth galon y Faenor a'r gofal iechyd y mae'n ei ddarparu.
Nod y gwaith celf yw gwella llesiant cleifion, ymwelwyr, staff a'r gymuned drwy greu amgylchedd digynnwrf a chroesawgar sy'n annog pobl i fyfyrio ac sy'n cynnig sicrwydd. Gyda'i gilydd maent hefyd yn creu hunaniaeth unigryw ar gyfer yr ysbyty sy'n mynegi bywiogrwydd ac amrywiaeth y bobl a'r lleoedd y mae'n eu gwasanaethu.
Gan ymchwilio i harddwch tirwedd y rhanbarth a'i ddiwylliant a'i dreftadaeth unigryw, mae'r gweithiau celf yn dathlu ac yn anrhydeddu gwaith y GIG ac yn myfyrio ar sut mae celf a gwyddoniaeth gyda'i gilydd yn ysgogi arloesedd. Mae Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Ganolfan Ragoriaeth sy'n darparu gofal blaengar.
Mae gweledigaeth hirdymor y bwrdd iechyd i roi creadigrwydd wrth galon y gofal y mae'n ei ddarparu hefyd yn cynnwys rhaglen o weithgareddau arloesol a ddarperir mewn ymateb i ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i'r celfyddydau, iechyd a llesiant.
Dysgwch fwy am Raglen Gelfyddydau Ysbyty Athrofaol y Faenor drwy wylio’r ffilm a gynhyrchwyd gan Huw Crawley ac a gomisiynwyd yn arbennig gennym.
The Grange University Hospital Arts Programme has been curated and commissioned by Studio Response.
Studio Response bring people together to produce site-responsive art in the public realm. They believe that artists can enrich the quality of our public spaces and work with artists to respond creatively to the people, place, culture, heritage and aspirations of neighbourhoods, towns and cities across the UK and internationally.
Jo Breckon, co-director of Studio Response said:
“The Grange Arts programme is one of the largest arts in health projects in Wales, and we are proud to have devised and managed its delivery over the last five years. We’ve worked with a fantastic team of over fifty artists, designers and makers and have been supported by a passionate Arts Steering Group and many other colleagues from the health board, Laing O’Rourke, Gleeds and numerous other partner organisations that have contributed their time and ideas. We sincerely thank you all.
I grew up not far from the Grange, and it has been a real privilege to contribute to this wonderful hospital which I’m sure will serve my home community so well for many years to come.”
Mae Rhaglen Gelfyddydau Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi'i churadu a'i chomisiynu gan Studio Response.
Mae Studio Response yn dod â phobl ynghyd i gynhyrchu gwaith celf sy'n ymateb i safleoedd ar gyfer y cyhoedd. Mae'n credu y gall artistiaid gyfoethogi ansawdd ein mannau cyhoeddus ac mae'n gweithio gydag artistiaid i ymateb yn greadigol i bobl, lle, diwylliant, treftadaeth a dyheadau cymdogaethau, trefi a dinasoedd ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Meddai Jo Breckon, cyd-gyfarwyddwr Studio Response:
“Mae Rhaglen Gelfyddydau'r Faenor yn un o’r prosiectau celfyddydau mewn iechyd mwyaf yng Nghymru, ac rydym yn falch ein bod wedi dyfeisio a rheoli'r broses o'i chyflwyno dros y pum mlynedd diwethaf. Rydym wedi gweithio gyda thîm gwych o dros hanner cant o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr ac wedi cael cefnogaeth gan Grŵp Llywio'r Celfyddydau angerddol a llawer o gydweithwyr eraill yn y bwrdd iechyd, Laing O'Rourke, Gleeds a nifer o sefydliadau partner eraill sydd wedi cyfrannu eu hamser a'u syniadau. Diolch o galon i chi i gyd.
Cefais fy magu nid nepell o'r Faenor, ac mae wedi bod yn fraint cyfrannu at yr ysbyty rhyfeddol hwn a fydd yn gwasanaethu cymuned fy mebyd yn dda iawn am flynyddoedd i ddod."
“I believe that developing a good working environment is fundamental to fostering a sense of community and belonging among healthcare workers. Art is fundamental here. It can humanise often the most stark clinical space.”
— Sian Cleaver, junior clinical fellow and hospital mess president