Maggie Matthews, Natural Forms

 

Natural Forms

 

Works were collected from artist Maggie Matthews for the maternity department – mainly the triage unit – and the discharge lounge. The paintings observe nature in all its colourful abundance, expressing powerful feelings of joyful celebration. The commission consists of nine framed, original paintings from which details were extracted to create large-scale liquid laminated wallpapers. Each artwork beautifully introduces light, colour and texture into what can be clinical and busy spaces.

Maggie said: “I have always had a love of nature and spending time outdoors. You will often find me out walking, sketchbook in hand, quickly recording the flora and fauna, making close-up sketches of flower petals or seed pods. I am grateful for the opportunity to take part in such a meaningful project and hope that the patience and staff alike find my work a positive contribution everyday.”

Casglwyd gweithiau gan yr artist Maggie Matthews ar gyfer yr adran famolaeth - yr uned frysbennu yn bennaf - a'r lolfa ryddhau. Mae'r paentiadau'n cyfleu natur yn ei holl ogoniant lliwgar, gan fynegi teimladau pwerus o ddathliad. Mae'r comisiwn yn cynnwys naw o baentiadau gwreiddiol wedi'u fframio y defnyddiwyd manylion ohonynt i greu papur wal ar raddfa fawr wedi'i lamineiddio â hylif. Mae pob darn o waith yn cyflwyno golau, lliw a gwead hyfryd i'r hyn a all fod yn fannau clinigol a phrysur.

Meddai Maggie: “Rwyf wastad wedi bod yn hoff o fyd natur a threulio amser yn yr awyr agored. Yn aml fe ddewch o hyd i mi allan yn cerdded, gyda'm llyfr braslunio yn fy llaw, yn gwneud cofnod cyflym o'r fflora a'r ffawna, gan wneud agosluniau bras o betalau blodau neu godennau hadau. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect mor ystyrlon ac yn gobeithio bod y cleifion a’r staff fel ei gilydd yn ystyried fy ngwaith yn gyfraniad cadarnhaol.”

 
Harvest Moon - mixed media on canvas - 100x100cm - £1200.jpg
In Bloom-mixed media on canvas-100x100cm-£1200.jpg

About the artist | Yr artist

Maggie Matthews was born in Blaina, 17 miles from the Grange University Hospital. She studied fine art at Newport College of Art and Design, before gaining a fine art degree in Exeter. Her work has been exhibited widely throughout Wales, Cornwall and the UK, most notably in the City Gallery, the Air Gallery and Thompson’s Gallery in London. She has also exhibited in America on Nantucket Island and New York in the White Columns exhibition, which toured worldwide.

Ganed Maggie Matthews ym Mlaenau, 17 milltir o Ysbyty Athrofaol y Faenor. Astudiodd gelfyddyd gain yng Ngholeg Celf a Dylunio Casnewydd, cyn ennill gradd mewn celfyddyd gain yng Nghaerwysg. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn eang ledled Cymru, Cernyw a'r DU, yn fwyaf arbennig yn City Gallery, Air Gallery a Thompson's Gallery yn Llundain. Mae hi hefyd wedi arddangos ei gwaith yn America ar Ynys Nantucket ac yn Efrog Newydd yn yr arddangosfa White Columns, a aeth ar daith ledled y byd.

Previous
Previous

Clare Williams, From Birch and Alder, to the Blorenge and Skirrid

Next
Next

Esther Connon, Exchanging Tales