Eurig Salisbury, Ysbyty'r Faenor
Ysbyty'r Faenor
Poet and novelist Eurig Salisbury was commissioned to create a Welsh-language companion poem to sit alongside Sophie McKeand’s Together We Are Giants outside the restaurant at the Grange University Hospital. Eurig talks about his poem far more eloquently than we ever could:
“Wales has a long history of composing poems to celebrate the construction of new buildings. The most famous is Iolo Goch's poem of praise for Owain Glyndŵr's grand court at Sycharth, where everyone could find refuge. My series of five englynion to the Grange Hospital continues this tradition. The first englyn positions the new hospital as a modern successor to the medieval Cistercian abbey of Llantarnam, which stood on the opposite bank of the river Llwyd and for centuries offered succour and shelter to countless people in need.”
“The new hospital however takes its name from a former manor but, as I point out in the second englyn, in contrast to the social injustices of the age in which the former manor was built, this new manor incorporates Aneurin Bevan’s cherished principles of universal healthcare.”
The third englyn offers some words of solace to both patients and visitors, whatever their circumstances, who can ease their worries by raising their eyes to the expansive vistas provided by the hospital’s prominent location on rising ground in the Llwyd valley.”
“The fourth addresses the doctors and medical staff, who routinely save lives and guide their patients through some of the most momentous events in their lives, the highs and the lows, and who fully deserve our thanks.”
“Lastly, the new hospital is built on a foundation stone like no other: the solid principle of healthcare for all free at the point of use. The last line emulates the poets of old by wishing success to the Grange Hospital for years to come.”
Comisiynwyd y bardd a'r nofelydd Eurig Salisbury i ysgrifennu cerdd Gymraeg i eistedd ochr yn ochr â cherdd Sophie McKeand Together We Are Giants y tu allan i'r bwyty yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae Eurig yn trafod ei gerdd yn llawer mwy huawdl nag y gallem ni:
”Mae canu cerdd i ddathlu codi adeilad newydd yn hen draddodiad yng Nghymru. Yn ei gywydd enwog i lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, ymfalchïodd Iolo Goch yn y ffaith y gallai pawb a’i dymunai gael lloches yn y ‘tai pren glân’ ar ben y ‘bryn glas’. Mae fy nghyfres i o bum englyn i Ysbyty’r Faenor yn parhau’r traddodiad hwnnw. Yn yr englyn cyntaf, rwy’n lleoli’r ysbyty fel olynydd i abaty Sistersaidd Llantarnam, a safai gynt ar ochr arall afon Lwyd ac a roesai am ganrifoedd ofal a lloches i bobl mewn angen.”
“Ond o enw’r faenor a safai gynt ar y safle y daw enw’r ysbyty ac, fel rwy’n nodi yn yr ail englyn, yn wahanol i anghyfiawnderau cymdeithasol yr oes a luniodd yr hen faenor, mae’r Faenor newydd yn ymgorfforiad o egwyddorion Aneurin Bevan, sef bod gofal iechyd yn hawl i bawb.”
“Yn y trydydd englyn, cysurir cleifion ac ymwelwyr, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau, drwy eu hannog i godi eu golygon at orwel eang y bryniau sy’n amgylchynu’r ysbyty ar godiad tir mewn dyffryn hardd.”
“Yn yr englyn nesaf, rwy’n canmol y doctoriaid a’r staff meddygol sy’n achub bywydau’n rheolaidd ac yn arwain eu cleifion drwy lawenydd a thristwch rhai o’r cyfnodau mwyaf tyngedfennol yn eu bywydau – ac sy’n llawn haeddu ein diolch.”
“Yn olaf, dywedaf fod yr ysbyty wedi ei godi ar garreg sylfaen go arbennig, sef yr egwyddor gadarn y dylai gofal iechyd fod ar gael am ddim i bawb yn ôl eu hangen. Rwy’n cloi’r gerdd yn null yr hen feirdd, drwy ddymuno llwyddiant i Ysbyty’r Faenor am flynyddoedd i ddod.”
About the artist | Yr artist
Eurig Salisbury is a poet and novelist. He has published two collections of poetry, Llyfr Glas Eurig (2006) and Llyfr Gwyrdd Ystwyth (2020). He was Bardd Plant Cymru (Welsh children’s laureate) from 2011 to 2013, and a Hay Festival International Fellow from 2012 to 2013. He won the Prose Medal at the National Eisteddfod of Wales in 2016 with his first novel, Cai, and published his first novel for young adults, Ifor Bach, in 2019. With Aneirin Karadog, he presents and produces a monthly podcast about Welsh poetry called Clera. He is assistant head and lecturer in creative writing in the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University.
Mae Eurig Salisbury yn fardd ac yn nofelydd. Mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o gerddi, Llyfr Glas Eurig (2006) a Llyfr Gwyrdd Ystwyth (2020). Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13, ac bu’n Gymrawd Rhyngwladol gyda Gŵyl y Gelli 2012–13. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 gyda’i nofel gyntaf, Cai, a chyhoeddodd nofel i bobl ifanc, Ifor Bach, yn 2019. Ynghyd ag Aneirin Karadog, mae’n cyflwyno ac yn cynhyrchu podlediad misol am farddoniaeth Gymraeg o’r enw Clera. Mae’n Bennaeth Cynorthwyol ac yn Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.