Emma M Price, Children’s Nature Garden

 

Children’s Nature Garden

 
Pebbles by EMP for GUH garden_2021.png
The Grange Nature Pack by EMP_Jan 2021.jpeg

Working closely with the health board’s play specialists, artist Emma M Price has created interactive, accessible artworks that ensure the children’s nature garden functions as a fun, educational space where children and young people can learn and play in a welcoming, safe space. Educational boards encourage children to explore the garden and to learn about local plants and animals, while bespoke labels draw the eye to the beautiful planting. Emma also curated nature garden boxes for the children’s department that provide hospital staff with meaningful activities to engage children. Emma’s artworks help ensure a legacy of engagement for the children’s nature garden extending beyond the arts programme.

Garden_DSC8218.jpg

Gan weithio'n agos gydag arbenigwyr chwarae'r bwrdd iechyd, mae'r artist Emma M Price wedi creu gweithiau celf rhyngweithiol, hygyrch sy'n sicrhau bod gardd natur y plant yn gweithredu fel gofod addysgol hwyliog lle y gall plant a phobl ifanc ddysgu a chwarae mewn man croesawgar, diogel. Mae byrddau addysgol yn annog plant i archwilio'r ardd ac i ddysgu am blanhigion ac anifeiliaid lleol, tra bod labeli pwrpasol yn tynnu'r llygad at y planhigion hardd. Bu Emma hefyd yn creu blychau gardd natur ar gyfer yr adran blant sy'n darparu gweithgareddau ystyrlon i staff ysbytai i ennyn diddordeb plant. Mae gweithiau celf Emma yn helpu i sicrhau gwaddol o ymgysylltu ar gyfer gardd natur y plant sy'n ymestyn y tu hwnt i'r rhaglen gelfyddydau.

Garden_DSC8296.jpg
 

About the artist | Yr artist

Emma M Price makes work that responds to place. She has a background in art and design and maintains  an arts practice co-producing public artworks with communities to design site-specific installations, from artist-led playgrounds and designing back-in-nature spaces to functional artworks within the public realm. Her work stimulates thinking around social-ecological engagement with communities through the shared belief  in the benefits of public art and nature. She considers the way that the wider public can interact with art and ecology in our urban and rural built environment.

Mae Emma M Price yn gwneud gwaith sy'n ymateb i le. Celf a dylunio yw ei chefndir ac mae'n cynnal ei hymarfer celfyddydol drwy gydgynhyrchu gweithiau celf cyhoeddus gyda chymunedau i ddylunio gosodiadau safle-benodol, yn amrywio o feysydd chwarae dan arweiniad artistiaid a dylunio gofod yn-ôl-i-fyd-natur i weithiau celf swyddogaethol o fewn y parth cyhoeddus. Mae ei gwaith yn ysgogi meddwl yn nhermau ymgysylltiad cymdeithasol-ecolegol â chymunedau drwy'r gred a rennir ym manteision celf gyhoeddus a natur. Mae'n ystyried y ffordd y gall y cyhoedd ehangach ryngweithio â chelf ac ecoleg yn ein hamgylchedd adeiledig trefol a gwledig.

Previous
Previous

Chris Hammerton, Woodland Wanderings

Next
Next

Eifion Porter, The Healing Garden and Children’s Nature Garden