Aidan Myers, Untitled

Close up.jpg
 

Untitled

 

Cardiff-based artist Aidan Myers was commissioned to create a site-specific painting for the Junior Doctors’ Mess at the Grange University Hospital. The painting offers an abstracted human form, created through a process of using figurative elements and structures to create an image that evokes the essence of a figure.

In developing the work, Aidan shared a close dialogue with Sian Cleaver, junior clinical fellow and GUH Mess president.

Sian said: "A doctors' mess is more than just a break room. It should be a place where doctors can find some respite from the constant demands from a busy ward; a chance to meet colleagues, share ideas and refreshments, and unwind. I believe that developing a good working environment is fundamental to fostering a sense of community and belonging among healthcare workers. Art is fundamental here. It can humanise often the most stark clinical space… I have been most excited to work with Aidan Myers on a commission especially for the mess. I feel lucky to have had such a unique opportunity to explore my own interest in art, away from my clinical role as junior doctor. Aidan has been extremely accommodating in allowing me to visit his studio to follow the progress of his work.”

Comisiynwyd yr artist o Gaerdydd, Aidan Myers, i greu paentiad penodol i’r safle ar gyfer Ystafell Fwyta’r Meddygon Iau yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae'r paentiad yn darlunio ffurf ddynol haniaethol, wedi'i chreu trwy broses o ddefnyddio elfennau a strwythurau ffigurol i greu delwedd sy'n dwyn hanfod ffurf i gof.

Wrth ddatblygu'r gwaith, bu Aidan mewn cysylltiad agos â Sian Cleaver, cymrawd clinigol iau a llywydd Ystafell Fwyta Ysbyty Athrofaol y Faenor. Meddai Sian:

"Mae ystafell fwyta’r meddygon yn fwy nag ystafell egwyl yn unig. Dylai fod yn fan lle y gall meddygon gael rhywfaint o seibiant o ofynion cyson ward brysur; cyfle i gwrdd â chydweithwyr, rhannu syniadau a lluniaeth, ac ymlacio. Rwy’n credu bod datblygu amgylchedd gwaith da yn sylfaenol er mwyn meithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn ymhlith gweithwyr gofal iechyd. Mae celf yn sylfaenol yma. Yn aml gall ddyneiddio'r mannau clinigol mwyaf noeth ... Roeddwn ar ben fy nigon yn gweithio ag Aidan Myers ar gomisiwn yn arbennig ar gyfer yr ystafell fwyta. Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle mor unigryw i archwilio fy niddordeb mewn celf, y tu hwnt i’m rôl glinigol fel meddyg iau. Mae Aidan wedi bod yn hynod barod ei gymwynas gan ganiatáu i mi ymweld â'i stiwdio i weld y gwaith yn datblygu.”

 
 

About the artist | Yr artist

Aidan Myers is an early-career artist based in Cardiff, who works between painting and drawing. He studied fine art at Cardiff School of Art and Design graduating in 2014. He subsequently worked at the art school’s ‘Inc Space’ on a two-year studio placement. In 2017, he won first prize at the Oriel CRiC Open Art Prize in Wales. In 2018 he travelled to India for a three-month artist residency at the Aamir Art House in Goa. He has exhibited in group shows in the UK and held solo shows in Cardiff (2016 and 2018) and Stroud (2016). His work can be found in public and private collections in the UK, Germany, USA, India and Hong Kong.

Mae Aidan Myers yn arlunydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd sydd newydd ddechrau ar ei yrfa, ac sy'n gweithio trwy gyfrwng paentio a darlunio. Astudiodd gelfyddyd gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd gan raddio yn 2014. Wedi hynny, bu'n gweithio yn 'Inc Space' yn yr ysgol gelf ar leoliad stiwdio dwy flynedd. Yn 2017, enillodd wobr gyntaf yng Ngwobrau Celf Agored Oriel CRiC yng Nghymru. Yn 2018 teithiodd i India ar gyfer rhaglen breswyl tri mis i artistiaid yn Nhŷ Celf Aamir yn Goa. Mae wedi arddangos mewn sioeau grŵp yn y DU ac wedi cynnal sioeau unigol yng Nghaerdydd (2016 a 2018) a Stroud (2016). Gellir dod o hyd i'w waith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn y DU, yr Almaen, UDA, India a Hong Kong.

Previous
Previous

Lucy Rowland, Jungle in the Pharmacy Staff Room

Next
Next

Tŷ Cerdd, CoDI Grange