Synapse, Gofalu Grange | Caring Connections
Synapse
As part of Gofalu Grange | Caring Connections, artists Deborah Aguirre Jones and Caroline Stealey developed Synapse with the following quote in mind: “If you get the building right for someone who has dementia, you get it right for everyone.”
People with dementia, autism or Alzheimer’s can move between feelings of comfort and fear in a hospital environment. The sensory experience of unfamiliar surroundings – how a place looks, sounds, smells and feels – is significant for many people, especially those who are neurodivergent or in a state of distress or trauma.
Deborah and Caroline gold-leafed mismatched, second-hand domestic chairs so that they shone in the light. They planned to take the chairs to places people lived and worked to have conversations about how our bodies react to different spaces: would it be possible, from this, to learn about ways of reducing the fear that hospital spaces can trigger? However, the first lockdown began.
The piece was adapted in response to the pandemic. When allowed, the conversations took place in Covid-safe ways: outdoors in a shopping centre, along a river bank, on driveways and pavements, in parks and gardens. Two opening questions were:
How can we be together, when so much is pulling us apart?
How can we be apart, when so much pulls us together?
The effects of the pandemic, such as shared recognition of individual and societal vulnerability, filtered through the conversations. People talked in extraordinary ways about their experiences, telling a wealth of stories with enormous warmth, insight and wisdom. A range of quotes are collected below:
It’s about learning to live again from scratch. We’ve come full circle.We’ve had to reinvent the wheel quite quickly.
Telephone is not enough. I miss my sister. It’s more than conversations; food, secrets, we share everything.
Watching telly, thousands dying, it’s very stressful.
There’s nothing you can do except accept there’s nothing you can do.
Change is usually the difficult part, it’ll take a while for people to realise how much they want contact.
Because you can’t see it, that’s what a lot of people struggle with.
I feel we are losing things we need; touch, hugging... the comfort.
How are we going to have empathy when you don’t have the interaction? How are children going to learn empathy?
When we start putting walls up in our minds, that’s when we’re in trouble.
It doesn’t make you weaker to talk about your feelings.
What is life about? Is spending money what you want?
You could be seeing that flower, being in the moment.
It’s going to get worse before it gets better.
There’s only a certain level of rationality you can achieve when you’re living in fear. You need to be at least in a neutral state to achieve any solution.
Any certainty is a red flag for me; everything is uncertain.
Human nature – we’ve conquered amazing things but the easy stuff, humanity, we can’t do, we struggle.
When faced with a new situation we may not know how things will pan out but we have underpinning knowledge making it possible to move forwards.
We don’t have visible leaders who represent diversity.
I’ve been thinking about belonging. The most common thing we have is that we’re human beings who live somewhere.
A sense of belonging is something that’ll always pull us together. Not geography, but soul to soul trust, putting our minds in someone else’s hands…
When the sense of belonging is missing, all sorts of things fall apart. As long as we have that, we should be okay.
We can’t be without emotion. Things are happening constantly in our bodies and our minds. It’s very difficult to separate the two.
I’m looking into anger, in myself. I want to disrupt the patterns I notice, the triggers.
Two chairs used for conversations have been cast in bronze and fixed as permanent seating at the far end of the main staff car park. They are surrounded by rough meadow, a haze of knee-high buttercups. Additional wild flowers were planted by community volunteers to create a peaceful corner and to provide sustainable feeding and nesting habitats for insects, butterflies, birds, small animals and other wildlife. Packets of wildflower meadow seeds have been given away with leaflets and a map.
Synapse is a sculptural artwork and a place to sit and enjoy the great view, while being only a two-minute walk from the Grange University Hospital’s front entrance. People can visit Synapse and its meadow to take a break, chat or just sit. Amazing things happen in the spaces between us.
Fel rhan o Gofalu Grange | Caring Connections, datblygodd yr artistiaid Deborah Aguirre Jones a Caroline Stealey Synapse gyda'r dyfyniad canlynol mewn golwg: “Os ydych chi'n llwyddo i greu adeilad sy’n iawn i rywun sydd â dementia, rydych chi'n gwneud y peth iawn i bawb.”
Gall pobl â dementia, awtistiaeth neu glefyd Alzheimer bendilio rhwng teimladau o gysur ac ofn mewn amgylchedd ysbyty. Mae profiad synhwyraidd amgylchoedd anghyfarwydd - sut mae lle yn edrych, yn swnio, yn arogli ac yn teimlo - yn bwysig i lawer o bobl, yn enwedig y rhai sy'n niwrowahanol neu sydd mewn cyflwr o drallod neu drawma.
Aeth Deborah a Caroline ati i addurno cadeiriau domestig ail-law â dalennau aur fel eu bod yn disgleirio yn y golau. Y bwriad oedd mynd â'r cadeiriau i fannau lle’r oedd pobl yn byw ac yn gweithio i sgwrsio am sut mae ein cyrff yn ymateb i wahanol leoedd: a fyddai'n bosibl dysgu o hyn am ffyrdd o leihau'r ofn y gall mannau mewn ysbytai ei sbarduno? Fodd bynnag, yna dechreuodd y cyfnod clo cyntaf.
Addaswyd y darn mewn ymateb i'r pandemig. Pan fu’n bosibl, cynhaliwyd y sgyrsiau mewn ffyrdd diogel o ran Covid: yn yr awyr agored mewn canolfan siopa, ar hyd glan afon, ar rodfeydd a phalmentydd, mewn parciau a gerddi. Dyma ddau o’r cwestiynau agoriadol:
Sut allwn ni fod gyda'n gilydd, pan fo cymaint yn ein tynnu ar wahân?
Sut allwn ni fod ar wahân, pan fo cymaint yn ein tynnu at ein gilydd?
Roedd effeithiau'r pandemig, megis cydadnabyddiaeth o fregusrwydd unigol a chymdeithasol, yn amlwg trwy'r sgyrsiau. Siaradodd pobl mewn ffyrdd rhyfeddol am eu profiadau, gan adrodd toreth o straeon gyda chynhesrwydd, mewnwelediad a doethineb enfawr. Ceir casgliad o ddyfyniadau isod:
Mae'n ymwneud â dysgu byw eto o'r dechrau. Rydyn ni wedi dod yn ôl yn grwn.
Rydyn ni wedi gorfod ailddyfeisio'r olwyn yn eithaf cyflym.
Nid yw ffôn yn ddigon. Rwy'n gweld eisiau fy chwaer. Mae'n fwy na sgyrsiau; bwyd, cyfrinachau, rydyn ni'n rhannu popeth.
Mae gwylio'r teledu, gyda miloedd yn marw, yn straen mawr.
Nid oes unrhyw beth y gallwch ei wneud heblaw derbyn nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud.
Newid fel arfer yw'r rhan anodd, bydd yn cymryd peth amser i bobl sylweddoli cymaint maen nhw eisiau cyswllt.
Oherwydd na allwch ei weld, dyna mae llawer o bobl yn cael anhawster ag ef.
Rwy'n teimlo ein bod ni'n colli pethau rydyn ni eu hangen; cyffyrddiad, cwtsh ... cysur.
Sut ydyn ni'n mynd i gael empathi pan nad oes unrhyw ryngweithio? Sut mae plant yn mynd i ddysgu empathi?
Pan fyddwn ni'n dechrau gosod waliau yn ein meddyliau, dyna pryd fyddwn ni mewn trafferth.
Nid yw siarad am eich teimladau yn eich gwneud chi’n wannach.
Beth yw ystyr bywyd? Ai gwario arian sydd arnoch chi ei eisiau?
Fe allech chi fod yn edrych ar y blodyn hwnnw, yn byw yn y foment.
Mae'n mynd i waethygu cyn i bethau wella.
Dim ond lefel benodol o resymoledd sy’n bosibl pan ydych chi'n byw mewn ofn. Rhaid i chi fod mewn cyflwr niwtral o leiaf i ganfod datrysiad.
Mae unrhyw sicrwydd yn rybudd ‘baner goch’ i mi; mae popeth yn ansicr.
Natur ddynol - rydyn ni wedi goresgyn pethau anhygoel ond mae'r pethau hawdd, megis dynoliaeth, yn peri trafferth i ni.
Wrth wynebu sefyllfa newydd efallai na fyddwn yn gwybod sut yr aiff pethau ond mae gennym wybodaeth sylfaenol sy'n ei gwneud hi'n bosibl i ni symud ymlaen.
Nid oes gennym arweinwyr gweladwy sy'n cynrychioli amrywiaeth.
Rydw i wedi bod yn pendroni am berthyn. Y peth mwyaf sydd gennym yn gyffredin yw ein bod ni'n fodau dynol sy'n byw yn rhywle.
Mae ymdeimlad o berthyn yn rhywbeth a fydd bob amser yn ein tynnu at ein gilydd. Nid daearyddiaeth, ond ymddiriedaeth enaid i enaid, gan roi ein meddyliau yn nwylo rhywun arall…
Pan fydd yr ymdeimlad o berthyn ar goll, mae pob math o bethau'n mynd o chwith. Cyn belled â bod gennym hynny, dylem fod yn iawn.
Ni allwn fod heb emosiwn. Mae pethau'n digwydd yn gyson yn ein cyrff a'n meddyliau. Mae'n anodd iawn gwahanu'r ddau.
Rwy'n edrych ar ddicter, ynof fi fy hun. Rwyf am darfu ar y patrymau rwy'n sylwi arnyn nhw, y sbardunau.
Mae dwy gadair a ddefnyddiwyd ar gyfer y sgyrsiau wedi’u bwrw mewn efydd a'u gosod fel seddi parhaol ym mhen pellaf prif faes parcio'r staff. Maent wedi’u hamgylchynu gan ddôl garw, a llwyth o flodau ymenyn at y pen-glin. Plannwyd rhagor o flodau gwyllt gan wirfoddolwyr cymunedol i greu cornel heddychlon ac i ddarparu cynefinoedd bwydo a nythu cynaliadwy i bryfed, gloÿnnod byw, adar, anifeiliaid bach a bywyd gwyllt arall. Rhoddwyd pecynnau o hadau blodau gwyllt am ddim gyda thaflenni a map.
Mae Synapse yn waith celf cerfluniol ac yn fan i eistedd a mwynhau'r olygfa wych, er nad yw ond dwy funud ar droed o brif fynedfa Ysbyty Athrofaol y Faenor. Gall pobl ymweld â Synapse a'r ddôl i gael hoe, sgwrs neu dim ond i eistedd. Mae pethau rhyfeddol yn digwydd yn y mannau o’n hamgylch
About the artist | Yr artist
Deborah Aguirre Jones is a socially engaged artist who enjoys making work with other people because of the surprises, meaningfulness and sheer sociability of the processes and the resulting artworks.
Deborah works as part of Davis & Jones. Deborah Aguirre Jones and El Davis have been collaborating for more than 10 years as socially engaged artists interested in the everyday and extraordinary. They interact with, and gently interrupt, the social and physical contexts in which they work, collaboratively creating events, publications, digital and physical and artworks to explore how we connect with places and each other.
Artist Caroline Stealey has worked alongside Deborah throughout Gofalu Grange | Caring Connections. Caroline is a multidisciplinary artist who now lives near Chepstow in the Monmouthshire countryside. Influenced by place, nature and historical events, she uses mainly textiles to create both 2D and 3D pieces. To learn more about their collaboration please visit https://gofalugrange.co.uk/
Mae Deborah Aguirre Jones yn artist sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol ac sy'n mwynhau creu gwaith â phobl arall oherwydd yr elfennau annisgwyl, ystyrlon a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r prosesau a'r gweithiau celf sy’n deillio o hynny.
Mae Deborah yn gweithio fel rhan o Davis & Jones. Mae Deborah Aguirre Jones ac El Davis wedi bod yn cydweithio am fwy na 10 mlynedd fel artistiaid sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol a chanddynt ddiddordeb mewn pethau cyffredin a phethau hynod. Maent yn rhyngweithio â'r cyd-destunau cymdeithasol a ffisegol y maent yn gweithio ynddynt, ac yn tarfu’n ysgafn arnynt, gan greu digwyddiadau, cyhoeddiadau, digidol a chorfforol a gweithiau celf i archwilio sut rydym yn cysylltu â lleoedd a'n gilydd.
Mae’r artist Caroline Stealey wedi gweithio ochr yn ochr â Deborah ar Gofalu Grange | Caring Connections drwyddi draw. Mae Caroline yn artist amlddisgyblaethol sydd bellach yn byw ger Cas-gwent yng nghefn gwlad Sir Fynwy. Wedi'i dylanwadu gan le, natur a digwyddiadau hanesyddol, mae hi'n defnyddio tecstilau yn bennaf i greu darnau 2D a 3D. I ddysgu mwy am y cydweithrediad ewch i https://gofalugrange.co.uk/