Laura Edmunds, Anemone
Anemone
Artist-designer Laura Edmunds has created a sensitive body of artworks for the mortuary and bereavement service spaces. Thinking about the circularity of nature, Laura worked with wildflowers and roadside weeds to explore the idea of flourishing against the odds and reflect on our capacity for strength and resilience during what can be the hardest time in a person’s life; a bereavement.
Laura said: ‘Inspired by things that disappear, I sought shadows, light and organic forms that decay, dissolve and disintegrate in order to provide nutrients for more life to grow. Pressing wildflowers, weeds and leaves, collecting seeds and observing changing light has been a huge source of inspiration in creating imagery and a colour palette for this project.’
The commission consists of liquid laminated wallpapers for the mortuary viewing room, the mortuary waiting area and two quiet rooms, alongside five framed artworks and two textile bier covers.
Mae'r artist-ddylunydd Laura Edmunds wedi creu casgliad sensitif o weithiau celf ar gyfer y corffdy a mannau lle y darperir gwasanaethau profedigaeth. Gan feddwl am gylcholdeb natur, gweithiodd Laura gyda blodau gwyllt a chwyn ar ochr y ffordd i ymchwilio i’r syniad o ffyniant yn groes i bob disgwyl a myfyrio ar ein gallu i fod yn gryf a gwydn yn ystod yr hyn a all fod yn un o'r cyfnodau anoddaf ym mywyd rhywun; profedigaeth.
Meddai Laura: 'Cefais fy ysbrydoli gan bethau sy'n diflannu, ac edrychais am gysgodion, golau a phethau organig sy'n pydru, yn ymdoddi ac yn dadfeilio er mwyn darparu maetholion ar gyfer bywyd newydd. Mae gwasgu blodau gwyllt, chwyn a dail, casglu hadau a gwylio'r newid mewn goleuni wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr wrth greu delweddau a phalet lliw ar gyfer y prosiect hwn.'
Mae'r comisiwn yn cynnwys papur wal wedi'i lamineiddio â hylif ar gyfer ystafell weld y corffdy, ardal aros y corffdy a dwy ystafell dawel, ochr yn ochr â phum gwaith celf wedi'u fframio a dau orchudd elor wedi'u gwneud o decstilau.
About the artist | Yr artist
Laura Edmunds is an artist-designer based in Cardiff. Working mainly with painting, drawing and textiles, Laura explores fragments, traces and the circularity of nature. Finding beauty in what is overlooked, she is fascinated by things that disappear. She prioritises hand-drawing and digital manipulation to create her designs and artworks. Previously, Laura worked on projects exploring breath, bodies, loss and memory through exhibitions and residencies in the UK, France and Australia.
Artist-ddylunydd sy'n byw yng Nghaerdydd yw Laura Edmunds. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar baentio, arlunio a thecstilau, mae Laura yn archwilio ysgyrion, olion a chylcholdeb natur. Gan weld harddwch yn yr hyn sy'n cael ei anwybyddu, mae'n cael ei swyno gan bethau sy'n diflannu. Mae'n blaenoriaethu arlunio â llaw a thrin delweddau'n ddigidol i greu ei dyluniadau a'i gweithiau celf. Yn y gorffennol, mae Laura wedi gweithio ar brosiectau sy'n ymchwilio i anadl, cyrff, colled a chof drwy arddangosfeydd a rhaglenni preswyl yn y DU, Ffrainc ac Awstralia.